Cymru
Demograffeg
- 2.98 miliwn yw poblogaeth ddiweddaraf Cymru. (2007)
- Erbyn 2020 rhagwelir y bydd y boblogaeth yn 3.17 miliwn. Bydd yna 18,000 mwy o blant o gymharu â 2007. Rhagwelir y bydd y boblogaeth oedran gweithio tua 1.9 miliwn.
- Mae 75% o weithlu 2020 eisoes wedi gadael addysg orfodol.
- Erbyn 2020, disgwylir i oedran ymddeol y boblogaeth fod wedi cynyddu 11.3 y cant o gymharu â 2007.
Sefyllfa cymdeithasol
- Yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2008 De Ddwyrain Cymru a De Orllewin Cymru sydd â’r gyfran fwyaf o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOA) (13% a 10% yn ôl eu trefn) yn y 10% o’r LSOA o amddifadedd mwyaf yng Nghymru.
Data Economaidd
- £44.3 biliwn oedd Cyfanswm Gwerth Ychwanegol Crynswth Cymru yn 2007. Roedd 190,000 o fentrau busnes gweithredol yng Nghymru yn 2006, tra yn ôl yr amcangyfrif diweddaraf gan yr Arolwg Llafurlu, roedd 1.3 miliwn o bobl mewn gwaith yn y 3 mis hyd at fis Chwefror 2009.
- Ar £14,877, roedd y GYC fesul pen o’r boblogaeth yng Nghymru yn 2007 yn cyfateb i 74.5 y cant o gyfartaledd y DU, yr isaf ymhlith y gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr.
- Roedd cynhyrchiant yr awr fel y’i fesurwyd gan y GYC yr awr a weithiwyd yn cyfateb i 84.6 y cant o gyfartaledd y DU yn 2007.
- Yn 2006, roedd mentrau mawr (250 neu fwy o weithwyr cyflogedig) yn cyfrif am 41 y cant o weithwyr cyflogedig y sector busnes yng Nghymru, o gymharu â 43 y cant ledled y DU gyfan.
Y Farchnad Lafur
- Yn ystod mis Rhagfyr 2008 i fis Chwefror 2009, 7.5 y cant oedd cyfradd ddiweithdra'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol yng Nghymru, sy’n uwch nag ar gyfer y DU gyfan (6.7 y cant).
- Yn ystod yr un cyfnod, roedd y gyfradd ddiweithdra yng Nghymru yn cyfateb i 69.8 y cant o’r boblogaeth oedran gweithio. Roedd hyn 4 pwynt canran yn is na chyfartaledd y DU.
- Roedd llif bychan net o 21,600 o bobl oedd yn gweithio yn cymudo allan o Gymru i Loegr yn 2007. Roedd hyn yn cynnwys 81,100 o breswylwyr Cymru yn gweithio y tu allan i Gymru a 59,500 o bobl oedd yn preswylio y tu allan o Gymru a oedd yn teithio i Gymru i weithio.
- Yn 2007, roedd ychydig llai na chwarter pobl mewn cyflogaeth yng Nghymru wedi’u cyflogi yn y sector cyhoeddus. Mae’r un gyfran wedi parhau yn gymharol ddigyfnewid ers 1999.
- Roedd hanner y swyddi yng Nghymru yn 2006 naill ai yn y sectorau iechyd, addysg a gweinyddu cyhoeddus neu ym maes cyfanwerthu, manwerthu, gwestai a thai bwyta.
- O gymharu â’r DU gyfan, roedd canran uwch o swyddi yn y sectorau iechyd, addysg a gweinyddu cyhoeddus yng Nghymru a chyfran is yn y sectorau cyllid a gweithgareddau busnes.
Addysg – Cyfranogiad
- Ddiwedd 2006, roedd 75 y cant o bobl ifanc 16 - 18 oed yn cymryd rhan mewn addysg neu ryw fath o hyfforddiant.
- Parhaodd 79 y cant o ddisgyblion blwyddyn 11 a allai adael ysgol yn 2008 mewn addysg llawn amser. Roedd 53 y cant o ddisgyblion blwyddyn 11 a barhaodd mewn addysg llawn amser wedi aros ymlaen yn yr ysgol tra bod 47 y cant wedi dewis parhau i flwyddyn 12 mewn coleg addysg bellach.
- Ddiwedd 2006, nid oedd 10 y cant o bobl ifanc 16-18 mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).
- Yn 2007, roedd 12 y cant o ddynion a 16 y cant o fenywod oedran gweithio yng Nghymru wedi derbyn hyfforddiant cysylltiedig â gwaith yn y 4 wythnos flaenorol.
Addysg - Cyrhaeddiad
- Yn 2004 roedd tua 450,000 o oedolion yng Nghymru (25% o’r cyfanswm 16-65 oed) ar lefel mynediad neu is mewn llythrennedd ac mae gan bron i 1 filiwn o bobl (53%) sgiliau lefel mynediad mewn rhifedd. 16% a 47% yw’r cyfrannau cyfatebol o arolwg Lloegr gyfan
- Yn 2007 roedd gan 69 y cant o’r holl oedolion o oedran gweithio gymhwyster ar lefel 2 neu uwch, gyda 27 y cant ar lefel 4 neu uwch. Nid oes gan 15 y cant o’r boblogaeth oedran gweithio unrhyw gymwysterau.
Ffynhonnel: StatsCymru