Canolbarth Cymru
- 209,700 yw poblogaeth ddiweddaraf y Canolbarth. (2007)
- Erbyn 2020 rhagwelir y bydd poblogaeth y Canolbarth yn 230,300
- Yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2008 o’r 127 o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is yn y canolbarth, mae 1 (1%) yn y 10% o ardaloedd o amddifadedd mwyaf yng Nghymru.
- Parhaodd 82 y cant o ddisgyblion blwyddyn 11 a allai adael ysgol yn 2008 mewn addysg llawn amser. Roedd 61 y cant o ddisgyblion blwyddyn 11 a barhaodd mewn addysg llawn amser wedi aros ymlaen yn yr ysgol tra bod 39 y cant wedi dewis parhau i flwyddyn 12 mewn coleg addysg bellach.
- Yn 2007 roedd gan 70 y cant o’r holl oedolion o oedran gweithio gymhwyster ar lefel 2 neu uwch, gyda 28 y cant ar lefel 4 neu uwch. Nid oes gan 15 y cant o’r boblogaeth oedran gweithio unrhyw gymwysterau.
Data economaidd
- Roedd Cyfanswm y Gwerth Ychwanegol Crynswth ym Mhowys yn £1.7 biliwn yn 2006 (nid oedd ffigur ar gael ar gyfer y canolbarth). Ddechrau 2008, roedd 12,555 o fusnesau wedi’u cofrestru ar gyfer TAW yn y canolbarth ac yn 2007 roedd gan yr ardal weithlu o 96,200 o bobl. (Datganiad Gwerth Ychwanegol Crynswth (GYA) rhanbarthol ONS, Rhag 2008; Cofrestriadau a Datgofrestriadau ar gyfer TAW BERR 2007, Tach 2008; Cyflogaeth yn y Gweithle Llywodraeth Cynulliad Cymru, Gorff 2008)
- Ar £13,258, roedd GYC y pen o’r boblogaeth ym Mhowys yn 2006 yn cyfateb i 70 y cant o gyfartaledd y DU. (Datganiad Gwerth Ychwanegol Crynswth (GYA) rhanbarthol ONS, Rhag 2008).
- Roedd 1,022 o fusnesau wedi’u cofrestru ar gyfer TAW fesul 10,000 o boblogaeth oedran gweithio yn y canolbarth, o gymharu â 486 ar gyfer Cymru a 536 ledled y DU, fel ar 1 Ionawr 2008. (Cofrestriadau a Datgofrestriadau ar gyfer TAW BERR 2007, Tach 2008).
Y Farchnad Lafur
- Ar 5.5 y cant, roedd cyfradd ddiweithdra’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol yn y canolbarth am y flwyddyn hyd at fis Medi 2008 yn is na’r gyfradd ar gyfer Cymru gyfan ac ychydig yn uwch na’r DU (5.8 a 5.3 y cant yn ôl eu trefn) (Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yr ONS, Mawrth 2009)
- Yn y flwyddyn hyd at fis Medi 2008 roedd y gyfradd gyflogaeth yn y canolbarth yn cyfateb i 71.7 y cant o’r boblogaeth oedran gweithio, ychydig yn uwch na chyfartaled Cymru ond yn is na chyfartaledd y DU (71.3 a 74.4 y cant yn ôl eu trefn). (Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yr ONS, Mawrth 2009)
- Roedd 13 y cant o swyddi yn y canolbarth yn 2006 yn perthyn i’r sector amaethyddol, o gymharu â 3 y cant yng Nghymru ac 1 y cant ledled y DU. (Cyflogaeth yn y Gweithle fesul diwydiant yng Nghymru, 2001 i 2006 Llywodraeth Cynulliad Cymru, Gorff 2008)
- £432.4 yr wythnos oedd cyfartaledd yr enillion llawn amser yn y canolbarth ym mis Ebrill 2008, oedd yn is na’r £498.1 ar gyfer Cymru gyfan a dim ond 75 y cant o gyfartaledd y DU. (Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion yr ONS, Tach 2008)
Ffynhonnel: StatsCymru