
Ar 26 Mawrth, cyhoeddodd yr Adran Plant, Addysgu, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ganllawiau i ddarparwyr dysgu ar ddatblygu a chyflwyno dogfennau cynllunio sefydliadol yn ystod 2010. Mae'n manylu'r gofynion ar gyfer cyflwyno Cynllunio Datblygu Darpariaeth i'r Adran Plant, Addysgu, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (APADGOS) erbyn dydd Gwener 28 Mai 2010 a'r trefniadau o ran cyflwyno cynigion ar gyfer defnyddio Unedau Credyd Cyfwerth (UCC) yn ystod 2010/11.
Isod ceir yr amserlen ar gyfer cyflwyno'r Cynlluniau Datblygu Darpariaeth a'r dogfennau ategol:
|
Anfon dogfennau cynllunio at sefydliadau |
Dydd Gwener 26 Mawrth 2010 |
|
Dychwelyd i Dîm Polisi Cyllido APADGOS |
Dydd Gwener 28 Mai 2010 |
|
Gwerthusiad o'r cynigion defnyddio UCC gan APADGOS |
Erbyn 30 Mehefin 2010 |
|
Anfon Cytundeb Cyllido gyda'r targedau cyllido y cytunwyd arnynt ar gyfer 2010/11. |
30 Mehefin 2010 |
Hysbyswyd sefydliadau o'u dyraniadau cyllid AB ar 28 Ionawr 2010. Bwriedir i'r amserlen ar gyfer proses gynllunio 2010/11 hwyluso trafodaeth rhwng APADGOS a'r sefydliadau ar dargedau UCC sydd wedi'u cyllido a sicrhau y rhoddir adborth ar gynigion defnyddio UCC mewn pryd cyn dechrau'r flwyddyn academaidd. Mae manylion pellach ar y cylch cynllunio ar gyfer 2010/11 i’w gweld yn y llythyr hwn (saesneg yn unig).
Y prif newidiadau ar gyfer 2010
Gosod targedau a defnyddio UCC
Mae dyraniad addysg bellach 2010/11 yn cynnwys tair ran wahanol, sef:
Bydd APADGOS yn gosod targedau UCC cyllid unigol ar gyfer pob un o rannau'r dyraniad cyllid AB. O 2010/11, defnyddir hyn er mwyn atafael cyllid a llywio dyraniadau blynyddoedd yn y dyfodol.
Gwnaed y newid hwn i geisio symleiddio'r broses o osod targedau i sefydliadau ac i gwtogi ar y biwrocratiaeth o fewn y system gynllunio. Mae sefydliadau wedi'n hysbysu bod y system gyfredol, sy'n defnyddio Unedau Credyd Cyfatebol a Bwysolwyd (UCCaB) a gyllidir at ddibenion atafael ac UCC i lywio dyraniadau yn peri dryswch. Er enghraifft, mae rhai achosion lle mae sefydliadau wedi cyrraedd eu targed UCCaB ond wedi methu'u targed UCC, sydd wedi cael effaith andwyol ar ddyraniadau cyllid yn y dyfodol. Rydym yn gobeithio goresgyn y broblem hon drwy osod targed UCC cyllido unigol.
Ochr yn ochr â hyn, mae penderfyniad i osod targed o 90 y cant o gyfanswm gwerth UCC a gyllidir ar gyfer y dyraniad AB arferol ar gyfer 2010/11. Mae hyn yn golygu bod disgwyl i sefydliadau gyrraedd 90 y cant o gyfanswm eu UCC a gyllidir ar gyfer 2010/11, neu caiff eu dyraniad ei atafael. Mae 90 y cant yn cyfateb i gweithgarwch sy’n ofynnol a disgwylir y bydd sefydliadau yn darparu mwy na’r ffigur hwn, os yn bosibl. Mae'r cyllid Llwybrau at Brentisiaethau a sgiliau ôl-19 wedi'i neilltuo o fewn y dyraniad AB 2010/11, ac felly bydd disgwyl i APADGOS gyflawni 97 y cant o gyfanswm yr UCC a gyllidir ar gyfer 2010/11, neu bydd angen atafael.
Fel rhan o broses gynllunio 2010/11, bydd gofyn hefyd i sefydliadau gyflwyno cynigion ar gyfer defnyddio UCC ar gyfer pob un o'r tair rhan gyllid yn y dyraniad AB. Dylid cyflwyno'r cynigion hyn ochr yn ochr â chynlluniau datblygu darpariaeth y sefydliadau ym mis Mai. Byddant yn sail i unrhyw drafodaethau gyda swyddogion APADGOS ar dargedau a gyllidir ar gyfer 2010/11. Nodir gwybodaeth bellach ar ddefnyddio UCC o dan y pennawd Defnyddio Cyllid fesul Maes Pwnc Sector isod. Bwriedir hysbysu'r sefydliadau am eu targedau UCC terfynol ar gyfer pob rhan o'r cyllid ochr yn ochr ag amodau blynyddol eu cyllid.
Blaenoriaethau Cynllunio AB 2010/11
Blaenoriaethau Cynllunio ar gyfer Newid Cwricwlwm:
Blaenoriaethau Cynllunio ar gyfer Datblygu:
Mae'r blaenoriaethau hynny a amlinellir o dan 'Blaenoriaethau Cynllunio ar gyfer Newid Cwricwlwm' yn ymwneud â meysydd lle rydym am gyfarwyddo newidiadau penodol yn nifereroedd cymwysterau penodol a gweithgarwch darparu. Mae'r ail gategori, 'Blaenoriaethau Cynllunio ar gyfer Datblygu', yn cyfarwyddo darparwyr dysgu i ddangos yn eu cynlluniau sut maent yn mynd ati i gynorthwyo'r broses o roi amrywiaeth o wahanol bolisïau a/neu flaenoriaethau ar waith i gefnogi dyheadau tymor canolig a thymor hwy Gweinidogion Cymru.
Ar gyfer 2010/11, bydd y ffocws ar sgiliau hanfodol/sylfaenol yn cael ei gefnogi gan amod ar gyllid sy'n atal sefydliadau rhag codi ffïoedd dysgu am gyrsiau hyd at lefel 1 yn y fframwaith cymwysterau cenedlaethol. Daw'r penderfyniad hwn yn dilyn yr ymgynghoriad diweddar ar gynigion am bolisi ffïoedd ar gyfer addysg a hyfforddiant ôl-16 lle cafwyd cefnogaeth gref i beidio â chodi ffïoedd am ddysgu sgiliau sylfaenol. Yma:
Dylai sefydliadau sicrhau y caiff blaenoriaethau cynllunio APADGOS eu hadlewyrchu yn eu dogfennau cynllunio ar gyfer 2010. Dylai sefydliadau hefyd sicrhau bod eu cynigion datblygu darpariaeth yn cyd-fynd â'u dogfennau cynllunio strategol a gweithredol.
Dylai sefydliadau gofio y dylai fod pwyslais clir mewn dogfennau cynllunio ar wella ansawdd a rheoli perfformiad. Mae'n arbennig o bwysig rhoi pwyslais ar ansawdd wrth i ni symud ymlaen gydag agenda sy'n ceisio sicrhau bod ansawdd yr addysg a'r hyfforddiant y mae APADGOS yn eu cyllido yn rhagorol. Ni fydd darpariaeth o ansawdd gwael, sy'n methu gwella, yn cael ei chyllido. Dylai sefydliadau gofio y bydd APADGOS yn tynnu cyllid yn ôl o unrhyw ddarpariaeth nad yw'n cyrraedd gradd 3 neu'n uwch adeg ailarolygu.
Cynlluniau Datblygu Darpariaeth (CDD)
Amlinellir manylion isafswm gofynion CDD ar gyfer 2010/11 yn Atodiad B y llythyr hwn. Gofynnir i sefydliadau gyflwyno CDD ym mis Mai gan ddefnyddio'r templed yma (saesneg yn unig). Rhaid i Bennaeth y Sefydliad gymeradwyo'r CDD.
Llwybrau at Brentisiaethau (LlAB)
Mae £8.5 miliwn wedi cael ei neilltuo yng nghyfanswm y dyraniad AB ar gyfer gweithgarwch LlAB. Bwriedir i lefelau cyllid LlAB yn 2010/11 gadw nifer y dysgwyr yn 2009/10, ac felly disgwylir i sefydliadau glustnodi cyllid o'u gweithgarwch arferol fel arian cyfatebol ar gyfer cyllid LlAB APADGOS.
Bydd 6 llwybr sector yn weithredol yn 2010/11. Mae'r rhain yn cynnwys y 5 llwybr oedd yn weithredol yn 2009/10, ynghyd â llwybr newydd ar gyfer Sgiliau Moduron. Mae manylebau'r rhaglenni ar gyfer y LlAB y cytunwyd arnynt, ynghyd â manylion gofynion mynediad y cynllun a thargedau niferoedd y dysgwyr fesul rhanbarth, ynghlwm yma (saesneg yn unig). Mae'r wybodaeth a ddarperir yn cynnwys cymwysterau safonol a chymwysterau ychwanegol, ynghyd â chyfeirnod yr amcan dysgu a'r oriau cyswllt dan arweiniad ar gyfer pob cymhwyster.
Mae APADGOS yn disgwyl i sefydliadau gydweithredu i gytuno ar dargedau niferoedd dysgwyr ar gyfer pob un o'r 6 llwybr sector. Hefyd caiff sefydliadau'u hannog i weithio'n agos gyda'r cynghorau sgiliau sector i ddatblygu a darparu gweithgarwch LlAB dros y flwyddyn nesaf. Yn arbennig, caiff sefydliadau'u hatgoffa o'r angen i ymgysylltu â chyflogwyr i sicrhau bod cyfleoedd ar gael i ddysgwyr gwblhau prentisiaethau ar ddiwedd eu Llwybr cychwynnol.
Wrth ddatblygu cynigion, dylai sefydliadau nodi’r trefniadau cyllido dros dro ar gyfer cymwysterau newydd sy’n tarddu o’r Fframwaith Cymwysterau a Chredydau yma (saesneg yn unig).
Bydd APADGOS yn monitro'r defnydd o gyllid LlAB yn rheolaidd yn ystod blwyddyn academaidd 2010/11. Ar ddiwedd y flwyddyn, caiff unrhyw danberfformiad yn erbyn targedau LlAB a gyllidir (h.y. llai na 97 y cant o'u UCC a gyllidir ar gyfer 2010/11) eu hatafael yn llawn. Ni fydd y trefniant hwn yn berthnasol i'r UCC hynny y mae sefydliadau wedi'u symud i ddarparu LlAB. Yn hytrach, mae'n berthnasol dim ond i'r cyllid ychwanegol sy'n cael ei ddarparu ar gyfer LlAB.
Caiff rhagor o wybodaeth am y cynllun LlAB ar gyfer 2010/11, gan gynnwys cymorth i fyfyrwyr, casglu data, monitro a threfniadau archwilio, eu cyhoeddi gan yr Uned Prentisiaethau ym mis Mehefin 2010.
Sgiliau Ôl-19
Bwriedir i gyllid sgiliau ôl-19 roi hwb i'r gwaith o ddarparu sgiliau perthnasol i waith i oedolion. Mae hyn mewn ymateb i'r cynnydd mewn galw am sgiliau oedolion yn sgil i dirywiad economaidd. Er nad yw'r cyllid ar gyfer sgiliau oedolion wedi'i gyfyngu i bobl dan 25 oed, caiff sefydliadau'u hannog i roi blaenoriaeth i bobl ifanc 19-24 oed wrth ddatblygu'u cynigion ar gyfer defnyddio cyllid sgiliau oedolion.
Er mwyn sicrhau bod yr hyfforddiant a'r sgiliau a ddarperir yn berthnasol i gyflogwyr a'r gweithle, caiff sefydliadau'u cynghori y ceir defnyddio cyllid sydd wedi'i neilltuo dim ond ar gyfer darparu cymwysterau cysylltiedig â gwaith ar lefel 2 neu'n uwch yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol. Ni cheir darparu cymwysterau addysg cyffredinol, fel cymwysterau TGAU a Safon Uwch, na chymwysterau Mynediad i AU, drwy'r cyllid hwn. Ar ben hyn, rhaid bod unrhyw gymwysterau sy'n cael eu darparu yn rhan o'r Fframwaith Cymwysterau a Chredydau neu'r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol. Mae hyn yn golygu bod cymwysterau generig ac unedau Rhwydwaith y Coleg Agored hefyd wedi'u heithrio gan nad ydynt ar gronfeydd data y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau na'r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol.
Dylai sefydliadau nodi ar wahân yr holl weithgareddau dysgu a ddarperir yn sgil y cyllid ychwanegol ar gyfer Sgiliau Oedolion. Dylid cofnodi'r gweithgareddau hyn yng Nghofnod Dysgu Gydol Oes Cymru gyda'r cofnod 'ASK' yn LP51. Bydd sefydliadau hefyd yn derbyn adroddiad misol ar wahân y System Gynllunio ac Ariannu Genedlaethol i fonitro'r ffordd maent yn darparu sgiliau oedolion.
Defnyddio Cyllid fesul Maes Pwnc Sector 2010/11
Dylai sefydliadau gyflwyno'u Cynlluniau Datblygu Darpariaeth, gan gynnwys cynigion ar gyfer defnyddio UCC ar gyfer y tair rhan ar wahân sydd yn nyraniad cyllid AB 2010/11 i'r Tîm Polisi Cyllid erbyn 28 Mai 2009. Dylid defnyddio tablau 2a i 2c y templed Cynllun Datblygu Darpariaeth ar gyfer defnyddio UCC yma (saesneg yn unig).
Ar gyfer 2010/11, bydd y ffurflenni defnydd yn pennu un targed UCC a gyllidir ar gyfer pob un o'r rhannau cyllid, ynghyd â thabl sy'n galluogi sefydliadau i gynllunio'r ffordd y maent yn cyflwyno UCCaB fesul maes pwnc sector. Daw'r newidiadau hyn yn dilyn y penderfyniad gan APADGOS i symud i un targed UCC a gyllidir, a'u bwriad yw ceisio symleiddio'r broses o osod targedau i sefydliadau.
Ar gyfer pob rhan o'r cyllid, bydd gofyn i sefydliadau nodi nifer yr UCC sy'n rhan o'u targed UCC a gyllidir. Ar gyfer y dyraniad AB arferol a'r rhan sgiliau ôl-19, dylai sefydliadau gyflwyno'u cynigion ar gyfer defnyddio UCCaB ar lefel Haen 1 Maes Pwnc Sector, ac eithrio Addysg Sylfaenol i Oedolion, Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill, Sgiliau Byw'n Annibynnol (canolig) a Sgiliau Byw'n Annibynnol (dwys), a ddylai gael eu cyflwyno ar Haen 2. Ar gyfer y rhan LlAB, dylid cyflwyno cynigion fesul llwybr sector ar gyfer 2010/11.
Er mwyn cynorthwyo sefydliadau i ddefnyddio'u UCC ar gyfer 2010/11, bydd APADGOS yn darparu'r wybodaeth ganlynol mewn fformat electronig:
Bydd y tablau llinell sylfaen hefyd yn cynnwys gwybodaeth am UCC cynyddol, a fydd yn helpu sefydliadau i bennu nifer yr UCCaB o'u targed UCC a gyllidir.
Dylai sefydliadau sicrhau bod eu cynigion defnyddio UCCaB yn ystyried blaenoriaethau cynllunio APADGOS ar gyfer dysgu ac addysg ôl-16 a'r cynigion datblygu darpariaeth a amlinellir yn eu Cynllun Datblygu Darpariaeth.
Mae canllawiau manwl ar gwblhau ffurflenni defnydd wedi'u cynnwys yn Adran 2 yma (saesneg yn unig). Mae gwybodaeth bellach am dargedau addysg bellach sefydliadau ar gyfer 2010/11 yma (saesneg yn unig).
Trosglwyddo rhwng rhannau o gyllid
Mae cyllid ar gyfer LlAB a sgiliau ôl-19 wedi'i glustnodi at y diben, ac felly ni cheir trosglwyddo cyllid i weithgareddau eraill heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan APADGOS. Cynghorir sefydliadau y bydd APADGOS ond yn ystyried ceisiadau i drosglwyddo cyllid rhwng dyraniadau LlAB a sgiliau ôl-19. Ni fydd modd i sefydliadau drosglwyddo cyllid i'w dyraniad arferol.
Dylai sefydliadau sydd am drosglwyddo cyllid anfon ceisiadau cychwynnol at Andrew Clark, Pennaeth y Tîm Polisi Darparwyr. Hefyd rhaid i sefydliadau sicrhau y caiff eu cynigion trosglwyddo eu nodi'n glir yn eu Cynllun Datblygu Darpariaeth.
Y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau
Mae cymwysterau'r Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (QCF) yn cael eu cyflwyno i'r cwricwlwm ac yn y pen draw byddant yn cymryd lle'r rhan fwyaf o gymwysterau'r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (NQF). Caiff cymysgedd o ddarpariaeth NQF/QCF ei ddarparu dros y blynyddoedd nesaf. Rhagwelir cynnydd yn narpariaeth y QCF wrth i fwy o bwyslais gael ei roi arni.
Prin yw'r wybodaeth fapio sydd ar gael ar hyn o bryd am y NQF/QCF. O'r data sydd ar gael, ymddengys bod gwerthoedd credyd newydd y QCF yn gyffredinol is na gwerthoedd sylfaenol cyfwerth yr UCC sydd wedi'u dyrannu i gymwysterau cyfredol y NQF. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd iawn cynllunio'n fanwl gywir ar gyfer darpariaeth y flwyddyn i ddod.
Er mwyn cynorthwyo i gynllunio'r cwricwlwm a sefydlogi'r broses gyllido, mae methodoleg cyllido interim wedi cael ei ddatblygu. Mae'r fethodoleg cyllido interim a gynigir ar gyfer 2010/11 yn fwy cynhwysfawr na'r un a fabwysiadwyd yn 2009/10, oherwydd rhagwelir y bydd nifer cymwysterau'r QCF yn cynyddu'n sylweddol - yma (saesneg yn unig).
Strategaeth a Rhagolygon Ariannol
Mae'r Memorandwm Ariannol rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a sefydliadau addysg bellach yn ei gwneud yn ofynnol bod gan sefydliadau strategaeth ariannol. Gofynnir am strategaethau ariannol bob tair blynedd, gyda'r dyddiad cyflwyno diwethaf yn 2007. Felly, gofynnir i sefydliadau gyflwyno strategaeth ariannol ddiwygiedig sy'n nodi sut bydd y sefydliad yn cyllido'i gynlluniau. Rhaid i gorff llywodraethu'r sefydliad gymeradwyo'r strategaeth hon.
Gofynnir i sefydliadau gyflwyno strategaeth ariannol, rhagolygon ariannol a sylwadau cysylltiedig erbyn 16 Gorffennaf 2010. I gael rhagor o arweiniad ar y gofynion ar gyfer strategaethau ariannol, dylech droi at Gylchlythyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru 24/2006: Gweithdrefnau Monitro Iechyd Ariannol ar gyfer Sefydliadau Addysg Bellach, sydd ar gael yn
Gweithdrefnau monitro Cyflwr Ariannol ar gyfer Sefydliadau Addysg Bellach
Rhaid bod cynigion y Cynllun Datblygu Darpariaeth a chynlluniau strategol a gweithredol y sefydliadau yn seiliedig ar adnoddau ariannol penodol, a rhaid diffinio'n glir y berthynas rhwng y cynigion hyn a'r rhagolygon ariannol.
Bydd swyddogion APADGOS yn dadansoddi Cynlluniau Datblygu Darpariaeth y sefydliadau ym mis Mai a mis Mehefin. Ni fwriedir rhoi adborth ysgrifenedig ffurfiol ar gyfer 2010, ond gellir trefnu cyfarfodydd dilynol i drafod cynigion defnydd a thargedau cyllido yn fwy manwl.
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Lucy Evans ar 029 2092 6013 neu drwy e-bost.