
Cafodd Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru (WESB) ei greu er mwyn sbarduno'r broses o roi ar waith y strategaeth a'r cynllun gweithredu sgiliau a chyflogaeth Sgiliau sy'n Gweithio i Gymru. Cafodd Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru ei greu er mwyn:
Cadeirydd y Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau yw Syr Adrian Webb. Ef hefyd yw Comisiynydd Cymru ar Gomisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau, sydd â chylch gwaith i herio'n egnïol ac yn annibynnol ar draws gwledydd Prydain, gan roi cyngor i'r Llywodraeth ar ei strategaeth, targedau a pholisïau o ran cyflogaeth a sgiliau.
Mae Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru yn disodli dau banel cynghori: sef Panel Cynghori ar Gyflogaeth Cymru a'r Cydbanel Cynghori ar Sgiliau.
I gael mwy o wybodaeth ewch i dudalen Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru ar y we.