Yn ystod fy nghyfnod fel Gweinidog Addysg a Sgiliau, rwyf wedi gweld â’m llygaid fy hun y safon uchel o addysgu ac ysgolion sydd gennym ni yma yng Nghymru.
Mae gennym ni enghreifftiau o arfer da sydd gyda’r gorau yn y byd, ac mae angen i ni sicrhau eu bod yn cael eu rhannu ar draws y wlad. Rydym am gefnogi’r gwaith da hwn drwy helpu i godi safonau ym mhob un o’n hysgolion.
Bydd yr adran newydd hon o’n gwefan yn cynnig cyfle i ddysgu mwy am rywfaint o’r gwaith da sy’n cael ei wneud ar draws y meysydd allweddol y nodwyd gen i ar gyfer eu gwella.
Leighton Andrews AC
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
![]() |
![]() |
![]() |