
Awdur: Philip Roe, June Wiseman and Mary Costello
Tudalennau: 101
Blwyddyn: 2006
Wedi eu cyflwyno ar ddiwedd yr 1980au, nod NVQs oedd lleihau'r cymhlethdod cynhenid yn y nifer helaeth o gymwysterau oedd ar gael ar y pryd er mwyn rhoi tystysgrif am ddysgu galwedigaethol. Mae NVQs yn parhau i fod yn bwysig i Strategaeth Sgiliau'r Llywodraeth, sy'n dibynnu i raddau helaeth ar ddenu cyflogwyr i hyfforddi eu gweithluoedd ac sy’n rhoi rhywfaint o bwyslais ar NVQs fel canlyniad mesuradwy gweithgaredd o’r fath. Mae'r adroddiad ymchwil hwn yn cyflwyno casgliadau yn deillio o astudiaeth o ganfyddiadau ac asesiadau cyflogwyr o NVQs, a gomisiynwyd gan yr Adran Addysg a Sgiliau ym Medi 2004.
Cysylltiad gwe: http://publications.dcsf.gov.uk/eOrderingDownload/RR714.pdf