
Awdur: Bahram Bekhradnia and Nick Bailey
Blwyddyn: 2008
Dyma’r pumed adroddiad a gyhoeddwyd gan HEPI ar y galw am addysg uwch, sy’n cael ei ddiweddaru bob blwyddyn yng ngoleuni’r wybodaeth ddiweddaraf. Ymestynnwyd yr adolygiad yn adroddiad y llynedd tu hwnt i 2020, hyd 2029-30. Mae adroddiad eleni’n ymgorffori’r rhagamcanion poblogaeth mwyaf diweddar o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ac Adran Actiwari’r Llywodraeth, ac mae hefyd yn ymgorffori peth dadansoddi rhanbarthol. Mae yna ddau brif ddylanwad ar y galw am addysg uwch - newidiadau yn y boblogaeth mae myfyrwyr yn dod ohoni, a gallu a pharodrwydd y boblogaeth honno i ymgymryd ag addysg uwch (yn ogystal ag i ba raddau maen nhw’n cymryd rhan)
Cysylltiad gwe: http://www.hepi.ac.uk/pubdetail.asp?ID=260&DOC=reports