
Awdur: High Fliers Research
Tudalennau: 44
Blwyddyn: 2009
Seiliwyd yr adroddiad hwn ar astudiaeth o’r broses recriwtio graddedigion yn y sefydliadau a enwyd gan The Times fel 100 Cyflogwr Graddedigion Gorau 2008 mewn arolwg barn o dros 15,000 o fyfyrwyr ar eu blwyddyn olaf i ddarganfod "Pa gyflogwr sy’n cynnig y cyfleoedd gorau i raddedigion?". Mae’r ymchwil, a gynhaliwyd yn ystod Rhagfyr 2008 gan High Fliers Research, yn edrych ar y nifer o swyddi gwag sydd ar gael i raddedigion gyda phrif gyflogwyr y DU yn 2009, o’i gymharu â lefelau recriwtio yn 2008. Mae’n tynnu sylw at y gwahaniaethau rhwng y targedau recriwtio a gyhoeddodd y cyflogwyr a’r nifer o raddedigion a recriwtiwyd gan eu sefydliadau mewn gwirionedd, yn ogystal â thynnu sylw at newidiadau diweddar mewn patrymau swyddi gwag yng ngoleuni’r dirywiad economaidd. Mae'r ymchwil hefyd yn asesu profiadau’r rhai sy’n recriwtio o gylch recriwtio graddedigion 2008-2009 ac yn dadansoddi'r cyflogau cychwynnol y mae cyflogwyr gorau yn bwriadu eu talu i raddedigion newydd yn 2009.
Cysylltiad gwe: http://www.highfliers.co.uk/download/GraduateMarket09.pdf