
Awdur: Cyfenter
Blwyddyn: 2006
I gyrraedd y nod hwn mae Partneriaeth Datblygu Cyfenter2 yn cynnal rhaglen o waith ymchwil sylfaenol ac uwch ar d?f a chynaliadwyedd busnesau yng Nghymru. Mae hyn wedi golygu cynnal arolwg o fusnesau yng Nghymru, gan ddefnyddio sampl o 2678 o berchnogion busnes. Cynhaliwyd grwpiau ffocws ledled Cymru i drafod profiadau perchnogion busnes yn fanylach. Y pynciau yr ydym yn canolbwyntio arnynt yw: * Gwasanaethau cymorth busnes * Tyfu a chynnal busnes * Sgiliau rheoli a hyfforddiant i berchnogion busnes a chyflogeion * Caffael ac olyniaeth busnes * Entrepreneuriaid yn y Cartref Mae'r gwaith ymchwil hwn yn canolbwyntio'n benodol ar nodi unrhyw rwystrau a materion ychwanegol, a niferus ar brydiau, sy'n wynebu grwpiau nad ydynt yn cael cynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd ym myd mentergarwch - merched, grwpiau lleiafrifol ethnig, unigolion rhwng 16 a 30 mlwydd oed, siaradwyr Cymraeg, pobl dros 50 mlwydd oed, rhieni unigol a phobl anabl. Elfen arall Partneriaeth Datblygu Cyfenter2 yw yr elfen ryngwladol. Mae gennym Bartneriaid mewn 3 gwlad Ewropeaidd arall yr ydym yn rhannu arferion da â hwy o ran strwythurau a pholisïau cymorth busnes. Ein Partneriaid yw;
Cysylltiad gwe: