
Awdur: House of Commons
Tudalennau: 35
Blwyddyn: 2009
Er bod Yr Adran Arloesedd, Prifysgolion a Sgiliau, a’i rhagflaenydd, Yr Adran Addysg a Sgiliau, wedi gwario o gwmpas L5 biliwn ar gyrsiau sgiliau sylfaenol rhwng 2001 a 2007 (L9 biliwn erbyn 2011), mae niferoedd uchel o oedolion y boblogaeth weithiol yn Lloegr yn parhau i fod yn anllythrennog a heb allu rhifedd. Mae taclo sgiliau llythrennedd, iaith a rhifedd gwan yn hanfodol os yw mwy o bobl i ganfod eu llawn botensial ac os yw’r wlad i aros yn gystadleuol mewn economi gynyddol fyd-eang. Yn 2001, lansiodd Yr Adran Addysg a Sgiliau ar y pryd y strategaeth Sgiliau Bywyd, gyda tharged Cytundeb Gwasanaeth Cyhoeddus i wella sgiliau’r 2.25 miliwn o oedolion yn Lloegr erbyn 2010. Cwblhawyd y targed hwn dros ddwy flynedd ynghynt.
Cysylltiad gwe: http://www.publications.parliament.uk/pa/cm200809/cmselect/c
mpubacc/154/154.pdf