
Awdur: Teaching and Learning Research Programme
Tudalennau: 4
Blwyddyn: 2008
Y nod fu gwella arferion mewn dysgu seiliedig ar waith drwy ymchwilio i'r modd y gall agweddau seiliedig ar bwnc a gwaith mewn cwricwlwm neu raglen ddysgu gydgysylltu â’i gilydd yn fwy effeithiol mewn rhaglenni fel Graddau Sylfaen, NVQs lefel uwch, HNDs ac uwchsgilio gweithlu heb eu hachredu. Mewn maes ymchwil lle mae ystyried trefniadau cyfundrefnol a materion technegol sy’n gysylltiedig â fframweithiau credydau a sicrwydd ansawdd wedi dod yn hollbwysig, esgeuluswyd materion yn ymwneud â gwybodaeth, addysgu a dysgu o’i gymharu. Drwy ddefnyddio’r cysyniad o ailosod mewn cyd-destun, rydym wedi cyflwyno syniadau newydd all ddatrys problemau fu’n bodoli ers tro a rhai sy’n ymddangos yn astrus.
Cysylltiad gwe: http://www.tlrp.org/pub/documents/EvansRB60.pdf