
Awdur: Annie Irvine
Tudalennau: 154
Blwyddyn: 2008
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau astudiaeth ansoddol archwiliadol a gomisiynwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau i ymchwilio i brofiadau pobl mewn cyflogaeth barhaol oedd yn dioddef o gyflwr iechyd meddwl. Roedd yr astudiaeth yn canolbwyntio ar brofiadau pobl mewn cyflogaeth ‘agored’ prif lif, yn hytrach nag ymyriadau cyflogaeth â chymorth, ac nid oedd yn cynnwys pobl oedd yn hunan gyflogedig. Roedd y grwp astudiaeth yn cynnwys yn bennaf bobl oedd yn gweithio i gyflogwyr mawr mewn rolau rheoli, proffesiynol, gweinyddol neu ym maes sgiliau technegol.
Cysylltiad gwe: http://www.dwp.gov.uk/asd/asd5/rports2007-2008/rrep537.pdf