
Awdur: Estyn
Blwyddyn: 2009
Ym mis Medi 2008, cynhaliodd Estyn gynhadledd ar lythrennedd ar gyfer dros 100 o gynrychiolwyr o ysgolion, awdurdodau lleol, sefydliadau hyfforddi athrawon, Llywodraeth Cynulliad Cymru a phartïon eraill â budd. Agorwyd y gynhadledd gan Jane Hutt AC, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Siaradodd Dr Bill Maxwell, Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, am godi safonau llythrennedd yng Nghymru. Canolbwyntiodd y gynhadledd ar ganfyddiadau dau o adroddiadau mwyaf diweddar Estyn ar lythrennedd - ‘Gwella dysgu ac addysgu medrau darllen cynnar’ ac ‘Arfer orau mewn darllen ac ysgrifennu disgyblion 7 I 14 oed’.
Cysylltiad gwe: http://www.estyn.gov.uk/publications/cy_sharing_good_practic
e.pdf