
Awdur: Welsh Affairs Committee
Tudalennau: 124
Blwyddyn: 2009
Yn yr unfed ganrif ar hugain, ni ellir ystyried economi Cymru ar wahân ond rhaid ei ystyried yng nghyd-destun cyfleoedd a bygythiadau byd-eang. Heddiw, nid yw economïau cenedlaethol yn endidau annibynnol sy’n gweithio ar wahân bellach, ond maent yn rhyngddibynnol. Roedd llawer o’r dystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr ymchwiliad hwn yn seiliedig ar yr amgylchiadau economaidd arbennig yng Nghymru ar y pryd. Yn 2007, adroddodd tystion am y cynnydd ym mhrisiau tai a’r llif o weithwyr mudol i Gymru. Ers hynny, mae sialensiau globaleiddio wedi dod hyd yn oed yn fwy amlwg yng ngoleuni’r dirywiad economaidd byd-eang. Wrth i economïau ddod yn fwy cydgysylltiol, yna gall problemau economaidd ledaenu’n haws o un wlad i un arall.
Cysylltiad gwe: http://www.publications.parliament.uk/pa/cm200809/cmselect/c
mwelaf/184/184i.pdf