
Awdur: Flora Macleod and Paul Lambe
Tudalennau: 24
Blwyddyn: 2006
Mae pwy sy’n cymryd rhan mewn addysg neu hyfforddiant ffurfiol i oedolion yn gwestiwn pwysig, a hynny’n bennaf gan fod addysg i oedolion yn cael ei weld fel ‘ail gyfle’ addysgol, a dull o symud ymlaen yn gymdeithasol. Yn y papur hwn edrychwn ar ehangder a dosbarthiad y cyfranogiad mewn addysg neu hyfforddiant ffurfiol rhan-amser dros gyfnod o amser, yn y bedair wlad sy’n perthyn i’r Deyrnas Unedig yn ôl dosbarth, rhyw, man dysgu, oedran ac anabledd. Trwy ddangos amrywiannau yn y tebygolrwydd o gyfranogi, amserol a gofodol fel ei gilydd, rydym yn amlygu patrymau a thueddiadau fel dull o ddarparu cefnlen ar gyfer rhoi ystyriaeth feirniadol i bolisïau ac arferion dysgu gydol oes o fewn y Deyrnas Unedig, a Lloegr, Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon ar wahân.
Cysylltiad gwe: http://www.learninglives.org/papers/working_papers/Working_p
aper_2_Exeter_survey_June_06.pdf