
Awdur: PACEC
Tudalennau: 33
Blwyddyn: 2008
Mae’r dadansoddiad yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar y dybiaeth y bydd yr economi yn mynd i ddirwasgiad fydd yn cwtogi’r cynnyrch mewnwladol crynswth (CMC) 2.0% yn 2009 ac yna’n adfer 0.75% yn 2010. Yna defnyddir y dybiaeth arddulliedig hon ynghylch twf CMC i gynhyrchu amcangyfrif o’r newid yn y lefelau cyflogaeth dros y cyfnod. Mae’r gydberthynas rhwng twf a chyflogaeth yn y gorffennol yn awgrymu y gall fod gostyngiad o 1.7 miliwn yn y lefel cyflogaeth. (Nid darogan diweithdra a wneir yma gyda llaw: gall lefelau cyflogaeth ddisgyn am fod gweithwyr yn ymddeol, am fod gweithwyr mudol yn gadael y wlad, neu am fod gweithwyr gyda mwy nag un swydd yn cwtogi ar nifer y swyddi a wnânt).
Cysylltiad gwe: http://www.lga.gov.uk/lga/aio/1215871