
Awdur: Local Government Association
Tudalennau: 40
Blwyddyn: 2009
Cyflenwir y prif raglenni ar gyfer helpu pobl i gael gwaith, sef y rhaglenni cyflogaeth a hyfforddiant cenedlaethol, trwy’r Adran Gwaith a Phensiynau, Canolfan Byd Gwaith a’r Cyngor Dysgu a Sgiliau. Mewn dirwasgiad, bydd profiad pobl o’r effaith ar swyddi’n amrywio o le i le. Yn ystod yr adegau anodd hyn, mae’n bwysicach nag erioed bod penderfyniadau am gyflogaeth a hyfforddiant yn cael eu gwneud ar lefel leol gan bobl sy’n agos at y realiti economaidd - fel bod modd targedu cymorth yn effeithiol ar anghenion pobl leol a chyflogwyr. Mae’r adroddiad hwn felly’n tanlinellu pwysigrwydd y camau mae’r llywodraeth yn eu cymryd tuag at ddatganoli’r broses o wneud penderfyniadau economaidd i isranbarthau, dinasoedd, siroedd a phartneriaethau lleol, a’r angen i wneud y newidiadau hynny mor gyflym â phosib.
Cysylltiad gwe: http://www.lga.gov.uk/lga/aio/1623986