Hafan
/ Gwybodaeth reoli mewn gwasanaethau ieuenctid awdurdodau lleol - Estyn, Mehefin 2009
Gwybodaeth reoli mewn gwasanaethau ieuenctid awdurdodau lleol - Estyn, Mehefin 2009
Awdur: ESTYN
Tudalennau: 25
Blwyddyn: 2009
Diben yr arolwg hwn oedd:
- paratoi papur sefyllfa ar ‘Gwybodaeth reoli mewn gwasanaethau ieuenctid awdurdodau lleol’;
- tynnu sylw at arferion da yn y modd y caiff yr wybodaeth hon ei darparu, ei defnyddio a’r effaith a gaiff yr wybodaeth hon.
Gofynnodd Llywodraeth Cynulliad Cymru i Estyn ystyried y canlynol
- i ba raddau mae gwasanaethau ieuenctid awdurdodau lleol yn casglu data ar ddeilliannau o ran y sgiliau y mae pobl ifanc yn eu dysgu ac yn eu datblygu, gan gynnwys defnyddio achrediad cyrff dyfarnu cenedlaethol a sut caiff y data hwn ei ddefnyddio’n rhan o wybodaeth reoli;
- i ba raddau y mae cysylltiadau rhwng rheoli perfformiad a gwella gwasanaethau;
- pa drefniadau y mae awdurdodau lleol a phrif swyddogion ieuenctid wedi’u gwneud ar gyfer rheoli gwybodaeth ar y lefelau y caiff ei chasglu;
- y data ynghylch deilliannau sydd wedi’i nodi hyd yn hyn trwy Ddangos Llwyddiant;
- faint o ddefnydd a wneir o ddata Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer dadansoddi;
- enghreifftiau o arferion da sy’n arwain at welliannau cadarnhaol yn y gwasanaethau a gynigir a deilliannau pobl ifanc rhwng 11-25 oed.
Cysylltiad gwe:
http://www.estyn.gov.uk/thematicreports/
< nôl