
Awdur: ELWa
Blwyddyn: 2005
Ym mis Ionawr 2005, comisiynwyd York Consulting Cyf (YCL), mewn partneriaeth â MRUK Research Wales, i fynd ati i werthuso rhaglenni Adeiladu Sgiliau ac Adeiladu Sgiliau +, dwy or pump ffynhonnell dysgu yn y gwaith a gafodd ei ariannu gan ELWa, cyn Gorff Cyhoeddus a Noddid gan y Cynulliad (CCNC), y mae ei swyddogaethau bellach yn rhan o'r Adran Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Gall pobl o unrhyw oed syn ddi-waith ac syn bodlonir meini prawf ymrestru ar raglen Adeiladu Sgiliau neu Adeiladu Sgiliau +. Rhaid i swyddfa Gyrfa Cymru leol neu swyddfeydd Canolfan Byd Gwaith gadarnhau bod yr unigolyn yn gymwys. O fis Awst 2005, bydd amodau mynediad ar gyfer Adeiladu Sgiliau+ yn cael eu hymestyn i gynnwys dysgwyr sydd mewn gwaith, cyn belled au bod yn dilyn un ai: * Lefel Mynediad 1, 2 neu 3 mewn Tystysgrif Rhifedd i Oedolion * Rhifed a/neu Llythrennedd a/neu; * Lefel 1 Sgiliau Allweddol mewn Cyfathrebu neu Defnyddio Rhifau
Gwerthuso rhaglen Adeiladu Sgiliau - Awst 2005 (Saesneg yn unig) - [PDF - 389.81 Kb]