
Awdur: Anna Vignoles, Augustin de Coulon and Oscar Marcenaro-Gutierrez
Tudalennau: 38
Blwyddyn: 2008
Cawn fod llythrennedd a rhifedd yn parhau i fod yn werthfawr yn y farchnad lafur. Yn bendant, parhaodd sgiliau llythrennedd a rhifedd i fod yn werthfawr iawn ym marchnad lafur y DU dros y cyfnod 1995 i 2004, er gwaethaf nifer o ymdrechion polisi i gynyddu’r cyflenwad o’r sgiliau hyn yn ystod y cyfnod hwn. Mewn geiriau eraill, er bod y boblogaeth erbyn hyn yn meddu ar fwy o sgiliau, yn nhermau llythrennedd, parhaodd llythrennedd a rhifedd i fod yn bwysig oherwydd bod yna alw mawr o hyd am y math hynny o sgiliau. Cawn hefyd bod cael sgiliau sylfaenol gwell yn hybu siawns gweithiwr o gael gwaith.
Cysylltiad gwe: http://www.nrdc.org.uk/publications_details.asp?ID=157