
Awdur: John Brennan and Winnie Tang
Tudalennau: 63
Blwyddyn: 2008
Mae’r adroddiad hwn yn un o gyfres o adroddiadau a gomisiynodd Cyngor Ariannu Addysg Uwch Lloegr sy'n tynnu ar Brosiect Fframwaith Comisiwn Ewropeaidd diweddar, ‘Y Gweithiwr Proffesiynol Hyblyg yn y Gymdeithas Wybodaeth’ (y prosiect REFLEX ). Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar y rhyngweithio rhwng gwahaniaethau pwnc a gwlad o ran proffiliau a phrofiadau myfyrwyr, y modd y maen nhw’n symud ymlaen i waith, eu llwyddiant yn y farchnad lafur, nodweddion eu gweithleoedd, eu cymwyseddau cydnabyddedig a’u gwerthoedd. Mae llawer o’r gwaith dadansoddi’n defnyddio teipoleg gwahaniaethau pwnc sy'n gwahaniaethu rhwng celfyddydau nad ydynt yn rhai galwedigaethol, celfyddydau galwedigaethol, gwyddoniaeth nad yw'n alwedigaethol a chyrsiau gwyddonol galwedigaethol.
Cysylltiad gwe: http://www.open.ac.uk/cheri/documents/reflex_report_3.pdf