
Awdur: Department for Children, Education, Lifelong Learning and Skills
Blwyddyn: 2009
Mae’r ddogfen hon yn nodi ein cynlluniau ar gyfer datblygu’r FfAE newydd a’n hamserlen arfaethedig ar gyfer ei weithredu. Caiff ein rhanddeiliaid gyfle i drafod y cynigion gyda ni yn fwy manwl mewn cynhadledd a gynhelir yng mis Mawrth 2009, a dylanwadu ar y gwaith o ddatblygu’r mesurau a’r trefniadau sicrhau ansawdd penodol a fydd yn sail i’r fframwaith hwn. Bydd y Fframwaith Ansawdd ac Effeithiolrwydd (FfAE) newydd, a ddatblygwyd mewn partneriaeth agos ag Estyn, cyrff cynrychioli darparwyr, dysgwyr a rhanddeiliaid eraill, yn ein helpu i wella ansawdd y ddarpariaeth. Bydd y fframwaith ‘cenhedlaeth newydd’ hwn yn herio pob darparwr i wella ei berfformiad yn barhaol, ond bydd yn rhoi mwy o ryddid a hyblygrwydd i’r rhai sy’n dangos eu heffeithiolrwydd yn gyson. Drwy sicrhau bod y fframwaith newydd yn cyd-fynd â chylch arolygu nesaf Estyn a fydd yn dechrau yn 2010, gallwn ddefnyddio gwybodaeth am berfformiad, gwybodaeth leol a barn broffesiynol i helpu i wella ansawdd ymhellach byth. Yn y cyfamser, bydd gan ddarparwyr a dysgwyr eu hunain ran hanfodol i’w chwarae, gan weithio mewn partneriaeth i ddysgu oddi wrth ei gilydd a chynorthwyo ei gilydd.
Cysylltiad gwe:
Fframwaith Ansawdd ac Effeithiolrwydd ar gyfer dysgu ôl-16 yng Nghymru: Darparu Sgiliau sy’n Gweithio I Gymru