
Awdur: Estyn
Blwyddyn: 2009
Mae Estyn yn cynnal arolygiadau o bartneriaethau pobl ifanc yn unol â gofynion Deddf Dysgu a Sgiliau, 2000. Ar gyfer arolygu gwasanaethau cymorth ieuenctid, gallai gweithgarwch arolygu fod yn gyffredinol mewn perthynas â materion penodol, ymwneud â pherson neu sefydliad penodol sy’n darparu gwasanaethau neu i ddosbarth penodol o berson neu sefydliad ac ymwneud â maes penodol. Y Bartneriaeth Pobl Ifanc (PPI) yw’r mecanwaith ar gyfer cyflwyno gwasanaethau cymorth ieuenctid i bobl ifanc yng Nghymru. Mae’r term yn cyfeirio at y bartneriaeth a arweinir gan yr awdurdod lleol, sy’n cynllunio, yn cydlynu ac yn goruchwylio’r holl wasanaethau cymorth ieuenctid mewn ardal yn unol â fframwaith statudol Deddf Dysgu a Sgiliau 2000. Mae ‘Ymestyn Hawliau’ a chyfarwyddyd ac arweiniad cysylltiedig yn amlinellu’r fframwaith ar gyfer darpariaeth gwasanaethau cymorth ieuenctid yng Nghymru a chyfrifoldebau awdurdodau lleol.
Cysylltiad gwe: http://www.estyn.gov.uk/inspection_reports_index/cy_youth_su
pport_services.asp