
Awdur: Estyn
Blwyddyn: 2009
Fel rhan o’i gylch gwaith 2004-05 ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru, gofynnwyd I Estyn gynnal arolygiad ardal o ansawdd addysg a hyfforddiant (dysgu) ar gyfer trigolion 16-19 oed a llunio adroddiad arno. Cynhelir arolygiadau ardal gan Estyn yn unol ag adran 83 Deddf Dysgu a Sgiliau 2000. Mae hon yn nodi os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn, rhaid I Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant arolygu: ansawdd ac argaeledd disgrifiad penodol o addysg a hyfforddiant, mewn ardal benodol yng Nghymru, ar gyfer pobl sy’n 16 oed neu’n hþn, y safonau a gyflawnwyd gan y rhai sy’n cael yr addysg neu’r hyfforddiant hwnnw, ac a yw’r adnoddau ariannol sydd ar gael i’r sawl sy’n cynnig yr addysg a’r hyfforddiant hwnnw yn cael eu rheoli’n effeithlon ac yn cael eu defnyddio mewn ffordd sy’n cynnig gwerth am arian.
Cysylltiad gwe: http://www.estyn.gov.uk/inspection_reports_index/cy_area_ins
pections.asp