
Awdur: Marc Cowling
Tudalennau: 25
Blwyddyn: 2008
Ers astudiaeth creu swyddi semenol Birch (1979), bu llunwyr polisïau ar draws y byd yn awyddus i hyrwyddo entrepreneuriaeth fel peirianwaith ar gyfer creu cyfleoedd cyflogaeth newydd. Ochr yn ochr â’r awydd politicaidd hwn, mae ymchwilwyr wedi ceisio darganfod pa fath o bobl sy’n dod yn entrepreneuriaid a pha fath o entrepreneuriaid sy’n creu’r nifer mwyaf o swyddi. Ar lefel sylfaenol, gwelwn mai dynion yw’r rhan fwyaf o’r stoc entrepreneuraidd. Ond mae ein hymchwil yn darganfod (a) bod llawer o’r gwahaniaethu a welir o ganlyniad i wahaniaethau o ran sector a nodweddion galwedigaethol dynion a merched, a (b) bod y gwahaniaeth go iawn rhwng y rhywiau’n diflannu’n gyflym dros amser.
Cysylltiad gwe: http://www.employment-studies.co.uk/pubs/report.php?id=wp18