
Awdur: Teaching and Learning Research Programme
Tudalennau: 4
Blwyddyn: 2008
Roedd ein prosiect yn un arhydol, gan edrych ar effaith rhaglenni yn y gweithle a ariannwyd gan y llywodraeth ac a gynlluniwyd i gynyddu sgiliau llythrennedd gweithwyr, ar ddysgwyr a’u sefydliadau. Roedd 567 o ddysgwyr a thros 53 o weithleoedd yn rhan o hyn. Fe wnaethom brofi sgiliau darllen ac ysgrifennu'r rhai oedd yn cymryd rhan ar ddechrau eu cyrsiau, ac yna ymhen blwyddyn ac ymhen dwy flynedd wedyn. Aethom ati hefyd i gasglu gwybodaeth fanwl ar dri achlysur am eu swyddi, eu profiadau dysgu, eu haddysg, eu hagwedd at waith a'u dyheadau. Ar yr un pryd, fe wnaethom gyfweld rheolwyr, rheolwyr hyfforddi a thiwtoriaid cwrs. Astudiwyd is-set o safleoedd a dysgwyr a chawsant eu cyfweld yn fanylach.
Cysylltiad gwe: http://www.tlrp.org/pub/documents/wolfRB59final.pdf