
Awdur: National Statistics
Blwyddyn: 2008
Mae’r ystadegau ar ddisgyblion 15 oed sy’n ymadael ag addysg heb gymhwyster cydnabyddedig yn cynnwys data ar gyfer Cymru am y cyfnod 2004/05 i 2007/08. Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 20 o Ragfyr 2007. Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf: 1) Yn 2007/08, fe ymadawodd 604 o ddisgyblion 15oed addysg llawn amser heb gymhwyster cydnabyddedig. Mae hyn yn is na’r cyfanswm am 2006/07 o 682. 2) Wedi'I fynegi fel canran o'r garfan ymadawodd 1.5 y cant o ddisgyblion 15 oed ag addysg llawn amser heb gymhwyster cydnabyddedig yn 2007/08, canran llai nag yn 2006/07. 3) Gwelwyd canran uwch o fechgyn yn ymadael ag addysg llawn amser heb gymhwyster nag oedd o ferched: 1.9 y cant ac 1.2 y cant yn yr un drefn.
Cysylltiad gwe: