
Awdur: The Sutton Trust
Tudalennau: 82
Blwyddyn: 2008
Nod cyffredinol yr adroddiad interim hwn yw cynnig argymhellion polisi cadarn fydd yn arwain at gyfradd uwch o bobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig yn mynd ymlaen i Addysg Uwch (AU). Mae’r ffocws ar gynyddu nifer y myfyrwyr ifanc, yn enwedig rhai 18 ac 19 oed, sy’n astudio ar lefel prifysgol, ond mae’r adroddiad hefyd yn bwrw golwg ar y mater ehangach o ddysgu gydol oes ar gyfer r y rhai fydd yn cael seibiant o’r byd addysg efallai cyn dychwelyd ato’n nes ymlaen. Mae yna nifer o rwystrau rhag derbyn AU a nifer o grwpiau sydd dan anfantais – ond mae’r adroddiad hwn yn edrych yn bennaf ar anghydraddoldeb o ganlyniad i ddosbarthiadau economaidd gymdeithasol, incwm a math o ysgol. Mae’n ystyried nid yn unig y rhwystrau rhag derbyn AU o unrhyw fath (ehangu cyfranogiad), ond hefyd y problemau mynediad penodol sy’n effeithio ar sefydliadau a chyrsiau dethol (y cyfeirir ato’n aml fel ‘mynediad teg’.
Cysylltiad gwe: http://www.suttontrust.com/reports/NCEE_interim_report.pdf