
Tudalennau: 50
Blwyddyn: 2009
Ers amser maith bellach, mae llawer iawn o ddiddordeb, pryder a thrafodaethau wedi bod ynghylch y ffaith bod cyrhaeddiad bechgyn ar gyfartaledd yn is mewn ysgolion a cholegau yn y DU1. Yn fwy diweddar, mae canolbwyntio wedi bod ar y gwahaniaethau cynyddol rhwng cyraeddiadau dynion a menywod a’u cyflawniad mewn addysg uwch. Amcangyfrifir bod Cyfraddau Cyfranogiad Cychwynnol Addysg Uwch ar gyfer 2007-08 yn 37.8 y cant ar gyfer dynion a 49.2 y cant ar gyfer menywod (Yr Adran Arloesedd, Prifysgolion a Sgiliau 2009).
Mae’r adroddiad hwn yn dadansoddi’r gwahaniaethau yng nghyfranogiad dynion a menywod mewn addysg uwch a pha mor lwyddiannus ydynt mewn addysg uwch. Dengys yr adroddiad fod perfformiad menywod yn rhagori ar berfformiad dynion bron â bod ym mhob mesur ac mae’n trafod rhai o’r achosion posibl a’r goblygiadau.
Cysylltiad gwe: