
Awdur: Lore Arthur, John Brennan, Rod Hick and Maki Kimura
Tudalennau: 22
Blwyddyn: 2008
Mae'r adroddiad hwn yn un o gyfres o chwe adroddiad a gomisiynodd Cyngor Ariannu Addysg Uwch Lloegr (HEFCE) sy'n tynnu ar Brosiect Fframwaith Comisiwn Ewropeaidd diweddar, ‘Y Gweithiwr Proffesiynol Hyblyg yn y Gymdeithas Wybodaeth’ (y prosiect REFLEX ). Mae'r ail adroddiad hwn yn y gyfres yn disgrifio rhai o'r gwahaniaethau cyd-destunol yn y systemau addysg uwch ac economïau’r gwledydd a gymerodd ran yn y prosiect. Mae'n cynnwys gwybodaeth ynghylch hanesion a thraddodiadau gwahanol addysg uwch, gwahaniaethau mewn amgylchiadau economaidd a gwleidyddol presennol a gwahaniaethau yn y swyddogaeth a neilltuir yn draddodiadol i addysg uwch yn y broses o recriwtio a pharatoi ar gyfer y farchnad lafur.
Cysylltiad gwe: http://www.open.ac.uk/cheri/documents/reflex_report_2.pdf