
Awdur: Ci Research
Tudalennau: 36
Blwyddyn: 2005
Ym mis Rhagfyr 2004, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ei llythyr cylch gwaith blynyddol i gyn Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (ELWa) yn gofyn am ymrwymiad parhaus i ddiwygio dysgu ôl-16 ledled Cymru. Diben hyn oedd sicrhau bod gan bawb yng Nghymru'r sgiliau cywir i fod yn ddinasyddion gweithgar a'u bod yn gallu cyfrannu'n effeithiol at y farchnad lafur. Mae'r papur hwn yn un mewn cyfres o bapurau Cipolwg Dysgu ar boblogaethau penodol yng Nghymru. Ceiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghymru yw'r grwpiau targed ar gyfer y Cipolwg hwn. Mae'r grwp hwn yn amrywiol iawn, nid yn ddiwylliannol ac yn grefyddol yn unig, ond o ran dosbarth cymdeithasol, rhyw ac oed hefyd. Mae mewnfudo a lloches yn bynciau llosg yn wleidyddol ac yn y wasg Brydeinig ar hyn o bryd. Ers i Lafur Newydd ddod i rym ym 1997 mae 3 Deddf Seneddol wedi eu pasio ar fewnfudo: Deddf Lloches a Mewnfudo (1999); Deddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches (2002); a'r Ddeddf Lloches a Mewnfudo (2004). O ran yr ymchwil hon, bu'r newid pwysicaf ym mis Gorffennaf 2002, gyda'r Llywodraeth yn tynnu yn ôl y consesiwn a oedd yn gadael i geiswyr lloches wneud cais am ganiatâd i weithio, os oeddent wedi bod yn aros am benderfyniad ar eu cais lloches am chwe mis neu fwy. Mae hyn nid yn unig wedi effeithio ar gyflogaeth ceiswyr lloches, ond mae hefyd wedi effeithio ar gael mynediad i hyfforddiant galwedigaethol.
Cipolwg Dysgu - Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid - [PDF - 204.69 Kb]