
Awdur: David N.F. Bell and David G. Blanchflower
Tudalennau: 108
Blwyddyn: 2009
Mae'r papur hwn yn ystyried problem diweithdra, un o’r problemau mwyaf enbyd sy’n wynebu llywodraeth y DU a llywodraethau eraill, wrth i'r dirwasgiad presennol waethygu. Mae'n dechrau trwy nodi’n gywir pryd y dechreuodd y dirywiad presennol yn economi Prydain, gan ddadlau ei bod yn eglur i’r dirwasgiad ddechrau yn ystod 2ail chwarter 2008. Yna mae’n mynd ymlaen i edrych a yw’r dirwasgiad hwn yn sylweddol wahanol i ddirywiadau yn y DU yn y gorffennol ac y mae’n dadlau fod rhai o’r canlyniadau i’r farchnad lafur, fel crynhoad o ddiweithdra ymhlith pobl ifanc a grwpiau eraill dan anfantais, yn nodweddiadol o brofiadau’r gorffennol, er bod y dogni eithafol ar gredyd yn gwneud y dirwasgiad presennol yn wahanol.
Cysylltiad gwe: http://ftp.iza.org/dp4040.pdf