
Awdur: David Ashton, Phil Brown and Hugh Lauder
Tudalennau: 35
Blwyddyn: 2004
Mae'r galw am sgiliau yng Nghymru nid yn unig yn isel o gymharu â Lloegr, ond mae'n gostwng. Ar sail tystiolaeth o arferion gorau rhyngwladol: Ni ellir dibynnu'n llwyr ar fympwyon y farchnad i ddatblygu'r gweithlu; mae'n rhaid 'llywio'r' farchnad i ryw raddau i ddarparu swyddi da i weithwyr ac elw i gwmnïau. Mae angen gweledigaeth glir o ble mae Cymru am fod erbyn 2010, ar sail strategaeth gydgysylltiedig a chamau gweithredu clir ar gyfer cynyddu'r galw am waith sgiliedig a gwthio busnesau i fyny'r gadwyn werth. Mae'r strategaethau ffurfio sgiliau mwyaf llwyddiannus yn dibynnu ar randdeiliaid allweddol i rannu dealltwriaeth gyffredin, ac ymrwymiad i strategaeth gyffredinol ar gyfer datblygu gweithlu, ochr yn ochr â dangosyddion perfformiad. Yn ôl yr adroddiad hwn, dylid cysylltu'r weledigaeth â blaenoriaethau clir ar gyfer datblygiad economaidd ar sail nodi clystyrau neu rwydweithiau busnes. Mae angen cyflwyno'r mecanweithiau perthnasol a'r rhaglenni sydd eu hangen i uwchraddio sgiliau'r gweithlu'n gyson i ddiwallu anghenion yr economi yn y dyfodol. Dylai Cymru osgoi defnyddio dull 'darpariaeth rhaglen' a mabwysiadu dull holistig drwy newid trefniadau gwaith er mwyn gwella perfformiad busnes. Nodau'r ymchwil yw: datblygu argymhellion ar gyfer gwella'r dull o ddatblygu'r gweithlu (WfD) yng Nghymru, gan ystyried argymhellion Llywodraeth y DU ar gyfer Lloegr. nodi meysydd eraill lle y bydd angen ymchwilio pellach o bosib.
Arfer Gorau Rhyngwladol ar Ddatblygu Gweithlu– Ionawr 2004 - [PDF - 135.47 Kb]