
Awdur: House of Commons
Tudalennau: 124
Blwyddyn: 2009
Cyhoeddodd yr Arglwydd Leitch ei arolwg sgiliau ddwy flynedd yn ôl, yn Rhagfyr 2006. Amlinellodd dargedau uchelgeisiol ar gyfer ‘uwchsgilio’ poblogaeth y DU ac fe'u mabwysiadwyd yn frwdfrydig gan y Llywodraeth. Ond ers hynny mae'r hinsawdd economaidd wedi gwaethygu, a chasglwyd ein tystiolaeth ar adeg pan oedd pwyslais y polisi sgiliau yn cael ei adolygu eisoes. Roedd rhan o’r dystiolaeth a gasglwyd gennym yn cwestiynu athroniaeth sylfaenol argymhellion yr Arglwydd Leitch, yn arbennig ar adeg pan fo pobl yn symud rhwng gwahanol fathau o waith, ac nid yn ystyried cynyddu eu lefelau sgiliau cyffredinol yn unig. Mae ail-sgilio, yn hytrach nag uwchsgilio, yn dod yn fwy ac yn fwy arferol ac yn ein barn ni mae'n rhaid i dargedau a’r modd y mae'r Llywodraeth yn neilltuo adnoddau newid i adlewyrchu hynny.
Cysylltiad gwe: http://www.ukces.org.uk/pdf/090116%20-%20IUSS%20Committee%20
-%20Reskilling%20for%20recovery.pdf