
Awdur: ELWa
Tudalennau: 41
Blwyddyn: 2003
Mae Canolfan Datblygu Addysg Gymunedol wedi nodi nodweddion arfer da mewn addysg oedolion a chymunedol. Yn ôl y Ganolfan, dylid mynd i'r afael â'r pum prif faes canlynol i sicrhau darpariaeth effeithiol ac ymarferol: * Mynediad (ee mynediad ffisegol, arwyddion, amseroedd a'r mathau o weithgareddau ac ati) * Addysg Gydol Oes (ee cyfle i ailhyfforddi, dysgu sgiliau gwahanol, ac ati) * Cydweithio rhwng asiantaethau (ee rhannu adnoddau ac arbenigedd, ac ati) * Cwricwlwm perthnasol (ee rhaglenni sy'n bodloni anghenion y dysgwr) * Rheoli (ee dysgwyr yn cyfrannu i'r broses o reoli'r ddarpariaeth) (CEDC AMA, 1991) Mae'r adroddiad hwn yn ceisio adolygu'r materion unigol hyn o ran trefniadau darparu gwasanaethau'r awdurdodau lleol (ALl) ar hyn o bryd, cyflwyno casgliadau a chynnig gwelliannau