
Awdur: Phillip Brown, Hugh Lauder, and David Ashton
Tudalennau: 24
Blwyddyn: 2008
Mae llywodraethau ledled y byd am i’w gwledydd gael economïau gwerth uchel, sgiliau uchel, ac maen nhw’n sylweddoli mai’r cam cyntaf tuag at y nod hwnnw yw cael gweithlu sydd wedi’i addysgu’n dda. Yn y DU, mae gwerthfawrogiad o’r cyswllt rhwng llwyddiant economaidd ag addysg wedi arwain at fwy o gyfranogiad mewn prifysgolion, yn ogystal â dysgu gydol oes, gan ddod yn flaenoriaethau gwleidyddol newydd. Ond mae’r Sylwebaeth hon o’r Rhaglen Ymchwil Dysgu ac Addysgu’n dangos nad yw’r amodau polisi hyn yn ddigon o bosib o osgoi ymosodiad sylweddol ar gyflogaeth grefftus a phroffesiynol yn y DU.
Cysylltiad gwe: http://www.tlrp.org/pub/documents/globalisationcomm.pdf